Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddyn yn ei 20au gael ei drywanu i farwolaeth yng ngogledd Llundain.

Cafwyd hyd i’r dyn ag anafiadau pan gafodd yr heddlu eu galw i ardal Haringey am oddeutu 1.20yb.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Does neb wedi cael ei arestio, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.