Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar ôl achosi helynt drwy hedfan drôn dros faes awyr Gatwick.

Cafodd dyn a dynes eu harestio yn ardal y maes awyr am oddeutu 10 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 21).

Mae’r llain lanio ar agor heddiw, ond mae rhybudd i deithwyr sicrhau bod eu hawyren yn teithio cyn mynd am y maes awyr.

Cafodd teithiau miloedd o bobol eu gohirio ar ôl i ddrôn gael ei ddarganfod ddydd Mercher, ac mae disgwyl rhagor o oedi heddiw.

Yn ôl llefarydd yn y maes awyr, fe gafodd y drôn ei ddefnyddio er mwyn achosi’r “oedi mwyaf cyn y Nadolig”.