Mae maes awyr Gatwick wedi ailagor i “nifer cyfyngedig” o deithiau awyren ar ôl i drôn achosi deuddydd o anhrefn llwyr.

Ni chafodd unrhyw awyren godi na glanio o’r maes awyr ers i drôn gael ei weld yno nos Fercher. Mae hyn wedi tarfu ar filoedd lawer o deithwyr.

Mae’r maes awyr yn rhybuddio y gall pobl ddal i wynebu oedi a theithiau wedi’u canslo, ac yn pwyso ar deithwyr i holi am yr wybodaeth ddiweddaraf gan eu cwmnïau awyren cyn teithio.

Nid oes unrhyw gadarnhad gan yr heddlu eto a yw’r drôn wedi cael ei saethu i lawr neu a oes rhywun wedi cael eu harestio.

Roedd y drôn wedi cael ei gweld fwy na 50 o weithiau yn y 24 awr rhwng 9 o’r gloch nos Fercher a neithiwr.

Mae’r heddlu’n amau bod y drôn wedi cael ei hedfan gyda’r bwriad o darfu ar awyrennau o’r maes awyr. Maen nhw’n ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai ymgyrchydd amgylcheddol sy’n gweithredu ar ei ben ei hun fod yn gyfrifol.