Mae cynlluniau deg mil o deithwyr wedi cael eu heffeithio ym maes awyr Gatwick wrth i ddrôns gael eu hedfan gerllaw.

Mae awyrennau sy’n dod mewn ac allan o ail faes awyr prysuraf gwledydd Prydain wedi cael eu hatal ar ôl i ddwy ddyfais cael eu gweld am 9yh nos Fercher (Rhagfyr 19).

Cyhoeddodd Gatwick fod y lanfa wedi ailagor tua 3yb heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 20), ond fe gafodd ei chau lai mag awr yn ddiweddarach ar ôl i fwy ddrôns ymddangos yn yr awyr.