Mae ymchwiliad wedi dod i’r casgliad mai nam trydanol oedd yn gyfrifol am dân yn Sŵ Caer dros y penwythnos diwethaf.

Fe fu’n rhaid mynd ag ymwelwyr ac anifeiliaid allan o’r lle, wedi i dân gynnau yn adeilad y mwncïod a’r reptiliaid.

Fe lwyddodd ceidwaid i symud pob mamal i ddiogelwch – yn cynnwys grwp wrangwtang o Swmatra – ond fe losgwyd nifer o bryfed, adar a reptiliaid yn y tân.

Heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 19) mae llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Caer wedi cadarnhau mai damwain achosodd y tân, ac mae nam trydanol oedd yn gyfrifol am gynnau’r fflamau.