Mae Jeremy Corbyn yng nghanol ffrae wleidyddol arall yn dilyn honiadau ei fod wedi galw Theresa May yn “ddynes dwp” yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 19).

Mae clipiau fideo o Dŷ’r Cyffredin yn dangos arweinydd yr wrthblaid yn siarad o dan ei wynt ar ôl i Theresa May gymharu ei ymgais i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder ynddi â phantomeim Nadolig.

Yn dilyn y digwyddiad, mae Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu gan lawer o Aelodau Seneddol sydd hefyd wedi galw arno i ymddiheuro.

Ar y pryd, fe ddywedodd Llefarydd y Tŷ, John Bercow, na welodd yr arweinydd Llafur yn yngan y geiriau honedig, ond ychwanegodd y byddai’n barod i ystyried tystiolaeth cyn cymryd camau pellach.

Mae llefarydd ar ran Jeremy Corbyn wedi ymateb i’r honiadau drwy ddweud nad “dynes dwp” a ddywedodd, ond yn hytrach “pobol dwp”, gan gyfeirio yn gyffredinol at Aelodau Seneddol.