Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Ipswich ddechrau’r wythnos.
Fe gafodd Daniel Saunders, 32, a oedd yn hanu o Surrey, ei drywanu mewn stryd gefn yn y dref ddydd Sul (Rhagfyr 16).
Fe gafodd dau ddyn, 44 a 39, ynghyd ag un ddynes 31 oed eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’r tri bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tan Ionawr 15.
Mae’r heddlu’n credu bod yr ymosodiad yn un a oedd “wedi’i dargedu”, ac maen nhw’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.