Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain wneud mwy i baratoi ar gyfer y math o Brexit lle na fydd yna gytundeb rhwng yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd Prydain.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod rhwng Theresa May a’i Chabinet lle cytunodd gweinidogion i wneud paratoadau ar gyfer sefyllfa o’r fath yn “flaenoriaeth weithredol”.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Brexit, Steve Barclay, os nad yw Aelodau Seneddol yn cefnogi cytundeb Brexit y Prif Weinidog yn y bleidlais ym mis Ionawr, yna’r opsiwn nesaf fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen.

Mae hefyd yn annog y gymuned fusnes i sicrhau eu bod nhw’n barod ar gyfer Brexit ‘dim cytundeb’.

Wrth drafod opsiynau eraill wedyn, mae Steve Barclay yn wfftio’r posibilrwydd o ail refferendwm neu sefyllfa ‘dim cytundeb’ sydd “wedi’i rheoli”, lle mae Llywodraeth Prydain yn dod i drefniant gyda Brwsel ar rai materion.

Am yr opsiwn olaf, dywed nad oes modd i wledydd Prydain “ddewis a dethol” rheolau’r Undeb Ewropeaidd.