Mae bron i un o bob pump o bobol (17%), yn teimlo ei bod hi’n “dderbyniol weithiau” i ddreifio ar ôl yfed – cyn belled â’u bod yn teimlo nad ydyn nhw wedi eu heffeithio.

Mae un ym mhob deg yn credu fod ganddyn nhw’r gallu i yfed mwy na chyfyngiad cyfreithiol Prydain cyn y byddai eu gallu yrru yn cael ei effeithio.

Yn ôl yr arolwg gan YouGov, mae chwe gwaith yn fwy o ddynion na merched hefyd yn meddwl eu bod yn gallu yfed chwech i ddeg diod cyn cael eu heffeithio.

Roedd hanner cymaint o fyfyrwyr, o gymharu â’r rheiny sydd ddim mewn addysg, yn meddwl ei fod weithiau yn iawn i yfed a dreifio – os nad ydyn nhw’n teimlo’r effaith.

Mae achosion yfed a dreifio yn cynyddu’n llethol yn ystod gwyliau’r Nadolig. Cafodd 5,869 o brofion anadlu eu gwrthod neu eu profi’n positif ym mis Rhagfyr i gymharu â 4,446 ym mis Chwefror.