Mae swm o £15m wedi cael ei glustnodi ar gyfer gwella cyflwr llysoedd Cymru a Lloegr, yn dilyn rhybuddion bod rhai adeiladau mewn “cyflwr ofnadwy”.

Fe fydd fydd yr arian, a gyhoeddir yn y Gyllideb gan Lywodraeth Prydain, yn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn mwy na 170 o safleoedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Mae nifer o lysoedd ledled Cymru a Lloegr yn enwedig angen gwella eu mesurau diogelwch, eu system gwres ynghyd â thrwsio liffts.

“Rydym eisiau darparu’r profiad gorau posibl i dystion, dioddefwyr, staff a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol sy’n defnyddio ein llysoedd bob dydd,” meddai’r Gweinidog Cyfiawnder, Lucy Frazer.

“Dyna pam mae croeso i’r arian ychwanegol hwn, a’r rheswm pam ein bod wedi gweithio gyda’r farnwriaeth i sicrhau ein bod yn ei wario lle mae ei angen fwyaf.”

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddyweodd yr Arglwydd Burnett o Maldon nad yw’n rhesymol disgwyl i staff na’r cyhoedd ddefnyddio adeiladau sydd mewn “cyflwr ofnadwy”.