Fe dyrrodd llai o siopwyr i’r stryd fawr dros y penwythnos oherwydd y tywydd garw, yn ôl ystadegau.

Daw hyn er gwaethaf y cynnydd bach yn nifer y siopwyr a gafodd ei weld ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 16), pan oedd Storm Deirdre wedi gostegu rhywfaint.

Yn ôl ystadegau, bu cynnydd o 0.8% yn nifer y siopwyr ddydd Sul o gymharu â’r un diwrnod y llynedd.

Ond mae’r ffigwr ar gyfer y penwythnos cyfan yn dangos bod siopau’r stryd fawr wedi gweld 4.3% yn llai o siopwyr o gymharu â’r un penwythnos yn 2017.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r cynnydd bach ar ddydd Sul yn awgrymu bod rhai siopwyr wedi newid eu diwrnod siopa o ddydd Sadwrn i ddydd Sul oherwydd y tywydd, a welodd gwyntoedd cryfion eira, a glaw yn lledu dros Gymru a Lloegr.

Ond ar y cyfan, maen nhw’n credu na fentrodd nifer o siopwyr allan, ac mae’n debygol y bydd rhai’n dewis siopa ar-lein yn hytrach na siopa ar y stryd fawr yn yr wythnos yn arwain at y Nadolig.