Mae disgwyl i Theresa May rybuddio yn erbyn galwadau i gynnal ail refferendwm Brexit, wrth i’r tensiynau o fewn ei Chabinet barhau.

Fe fydd y Prif Weinidog yn defnyddio anerchiad i Dy’r Cyffredin ddydd Llun (17 Rhagfyr) i rybuddio y byddai ail refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn “hynod niweidiol” i wleidyddiaeth Prydain.

Daw’r feirniadaeth ar ôl i Weinidog Swyddfa’r Cabinet David Lidington a phennaeth staff y Prif Weinidog, Gavin Barwell, wadu adroddiadau eu bod nhw’n cynllwynio i gynnal refferendwm o’r newydd.

Mae nifer o Geidwadwyr eraill hefyd o’r farn y dylid cynnal pleidlais rydd ar Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn y cyfamser mae’r Blaid Lafur yn mynnu y dylai Theresa May gynnal pleidlais ar ei chynllun Brexit yn Nhŷ’r Cyffredin cyn i’r Senedd orffen cyn cyfnod y Nadolig ddydd Iau.