Mae bachgen pump oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn tân yn ardal Newark yn Swydd Nottingham.

Cafodd ei achub o eiddo yn Collingham am oddeutu 7 o’r gloch fore ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 15).

Ond fe fu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Bu farw merch wyth oed a dynes 33 oed yn y digwyddiad hefyd, ac mae dyn 34 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae lle i gredu bod y pedwar yn aelodau o’r un teulu.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.