Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 18 oed yn ne-ddwyrain Llundain.

Fe fydd Charlie Dudley yn mynd gerbron ynadon yn Croydon ddydd Llun, wedi’i gyhuddo o drywanu Jay Sewell i farwolaeth.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Lee nos Fawrth.

Mae pump o ddynion a dwy ddynes rhwng 18 a 56 oed wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad, ac mae dyn 20 oed wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.