Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi cyhuddo’r cyn-Brif Weinidog Llafur, Tony Blair o “danseilio” y trafodaethau Brexit drwy alw am ail refferendwm.

Dywedodd y byddai cynnal refferendwm newydd yn golygu bod y senedd yn ymbellhau oddi wrth ei chyfrifoldeb.

“Mae gan y Senedd ddyletswydd ddemocrataidd i gyflwyno’r hyn y gwnaeth pobol Prydain bleidleisio i’w gael,” meddai.

“Rwy’n benderfynol o hyd o weld hynny’n digwydd. Wna i ddim siomi pobol Prydain.”

Yr unig ffordd allan?

Mae Tony Blair yn awgrymu y gallai aelodau seneddol benderfynu mai cynnal ail refferendwm yw’r unig ffordd o sicrhau cytundeb yn dilyn y trafodaethau gyda Brwsel.

Ond mae Theresa May yn dweud bod rhai beirniaid yn ceisio manteisio ar y sefyllfa at eu dibenion eu hunain.

“Rwy’n brwydro am gytundeb da i Brydain,” meddai.

“Fe wna i barhau i frwydro am gytundeb da i Brydain.

“Dw i erioed wedi colli golwg o fy nyletswydd, sef cyflwyno ar sail canlyniad y refferendwm, a gwneud hynny mewn modd sy’n amddiffyn swyddi Prydeinig, ein cadw ni’n ddiogel ac sy’n amddiffyn ein Hundeb.

“Fodd bynnag, mae yna ormod o bobol sy’n ceisio manteisio ar y sefyllfa er eu buddiannau gwleidyddol eu hunain – yn hytrach na gweithredu er lles y genedl.”