Mae staff yn Sŵ Caer wedi bod wrthi yn ddyfal i geisio dod o hyd i bob anifail yno ar ôl i dân ddifrodi’r rhan helaeth o do plastig yn gorchuddio Coedwig Monsŵn yr atyniad.

Mae pob un o’r mamaliaid wedi dod i’r fei ond mae nhw wedi bod wrthi yn ceisio dod o hyd i weddill yr anifeiliaid hefyd.

Bu’n rhaid i ymwelwyr ddianc o’r atyniad wrth i’r fflamau ddal gafael yn y to.

Mae creaduriaid fel orangwtan, adar a chrocedeilod ymysg y rhywogaethau a gedwir yn y Monsoon Forest, sy’n ceisio ail-greu awyrgylch trofannol de ddwyrain Asia.

Cafodd un person ei drin oherwydd effeithiau anadlu mwg o ganlyniad i’r tân .

Mae’r atyniad yn boblogaidd iawn gyda ymwelwyr o Gymru yn ogystal a rhai o ledled Ynysoedd Prydain ond mae ar gau nawr oherwydd y tân.