A hithau yn dymor y partïon Nadolig, ac er gwaetha’ llanast Brexit, mae aelod o gabinet Theresa May wedi bod yn dawnsio Gangnam Style.

Michael Gove yw Ysgrifennydd Amgylcheddol Llywodraeth Prydain, ac mae wedi bod ar y dawnslawr gydag Ed Balls, cyn-wleidydd oedd yn arfer bod yn aelod o Lywodraeth Lafur Prydain.

Y gred yw bod y ddau wedi cael eu ffilmio yn dawnsio ym mharti Dolig Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth Prydain.

Yn y fideo, mae Michael Gove ac Ed Balls yn cyd-ddawnsio, i fonllefau torf gyfagos,  gan ddynwared marchogaeth ceffyl a thaflu lasŵ – sef prif symudiadau’r Gangnam Style.

Eisoes mae’r ddau ddawnsiwr wedi eu gwylio tros 500,000 o weithiau ar safle trydar.

Cefndir

Roedd y gân ‘Gangnam Style’ yn monster hit i Psy, seren bop o Gorea, yn 2012.

Daeth y symudiadau dawnsio o fideo’r gân i gael eu galw yn ‘Gangnam Style’, ac yn 2016 ar Strictly Come Dancing  fe berfformiodd Ed Balls y ddawns.