Mae miloedd o blant a phobol yn eu harddegau wedi cael eu hanfon ymlaen at yr awdurdodau oherwydd bod pobol yn poeni y gallan nhw gael eu radicaleiddio neu eu troi’n frawychwyr.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2008, roedd 2,009 o bobol ifanc dan 15 oed wedi’u cyfeirio at gynllun ‘Prevent’ llywodraeth Prydain. O’u plith, yr oedd 197 o ferched.

Fe gafodd cyfanswm o 7,318 o bobol ifanc eu cyfeirio at Prevent yn 2017/18 – cynnydd o 20% ar gyfanswm 2016/17.

Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref yn dangos hefyd naid o fwy na thraean yn nifer y bobol ifanc gafodd eu cyfeirio at yr asiantaeth oherwydd pryderon ynglyn ag eithafiaeth asgell-dde.

Ac er mai pryderon ynglyn â radicaleiddio gan Islam sydd i gyfri am y gyfran fwya o’r achosion, mae nifer y bobol ifanc yn y categori hwnnw wedi gostwng 14% ers y flwyddyn gynt.

Fe all unrhyw un sy’n poeni am unigolyn gyfeirio ei achos at Prevent.