Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi cael ei rybuddio bod yn rhaid iddo weithredu’n fuan ac yn gadarn er mwyn mynd i’r afael â throseddau treisgar ar strydoedd prifddinas Lloegr.

Mae Pwyllgor Heddlu a Throsedd, Cynulliad Llundain, wedi mynegi eu pryderon am y diffyg manylion sydd yn ei gynllun i sefdylu VRU (Violence Reduction Unit.

Bwriad y cynllun yw defnyddio’r un math o drefn â chynghorau iechyd cyhoeddus – dull sydd i weld yn gweithio’n dda yn yr Alban – lle mae’r heddlu, y gwasanaethau tai, Gwasanaeth Iechyd a gweithiwyr gofal yn cydweithio.

Ond mewn llythyr at y maer, mae aelodau’r Pwyllgor yn dweud eu bod nhw’n poeni am y glo mân o gylch sefydlu’r VRU – yn bennaf sut y byddai’n cael ei gyllido, a’r bwriad i ganolbwyntio gormol ar bobol ifanc. cyllyll a gangiau.