Mae aelod o Dŷ’r Arglwyddi, a gafodd ei gyhuddo o gynnig arglwyddiaeth i ddynes yn gyfnewid am ryw, wedi rhoi’r gorau i’w sedd, yn ôl adroddiadau.

Mae’r Arglwydd Lester o Herne Hill wedi dweud wrth bapur The Times ei fod yn camu o’r neilltu ar unwaith, gan ychwanegu bod yr ymchwiliad i’r honiadau yn ei erbyn wedi cael “effaith difrifol” ar ei iechyd.

Cafodd y gŵr 82 oed ei wahardd o’r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl i’r honiadau ddod i’r fei, er gwaethaf ei ymdrechion i’w gwadu.

Cyflwynwyd y cwynion gan yr ymgyrchydd hawliau merched, Jasvinder Sanghera, sy’n honni iddi gael ei haflonyddu’n rhywiol gan yr Arglwydd Lester dros ddeng mlynedd yn ôl.

Mae pwyllgor safonau Tŷ’r Arglwyddi wedi cadw at ei awgrym y dylai’r Arglwydd gael ei wahardd o’r siambr tan fis Mehefin 2022.

Daw hyn er gwaethaf barn rhai arglwyddi bod ymchwiliad y pwyllgor i’r honiadau wedi bod yn “annheg”.