Mae pobol sy’n byw yng nghefn gwlad yn llai tebygol o oroesi canser na’r rheiny sydd mewn dinasoedd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberdeen wedi bod yn archwilio 39 o astudiaethau o wahanol rannau o’r byd, gan ddod i’r casgliad bod 30 ohonyn nhw’n adrodd bod yna “anfantais clir” i bobol mewn cymunedau gwledig.

Yn ôl eu hastudiaeth, mae byw yng nghefn gwlad yn ei gwneud hi’n 5% yn llai tebygol i bobol oroesi canser o gymharu a bywyd yn y ddinas.

Mae nifer o ffactorau’n ymwneud â hynny, medden nhw, gan gynnwys diffyg trafnidiaeth a phellter o wasanaethau meddygol sydd yn y pen draw yn ei gwneud hi’n fwy tebygol i bobol oedi cyn derbyn triniaeth.

Dywed yr Athro Peter Murchie, a arweiniodd yr ymchwil, fod y canfyddiad hwn yn “syfrdanol”, ac mae’n dweud bod angen cynnal rhagor o ymchwil i atal yr “anghydraddoldeb“ hwn.