Mae Andrea Leadsom wedi cwestiynu tuedd wleidyddol Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, ar ôl iddo feirniadu penderfyniad y Llywodraeth i ohirio’r bleidlais ar y cytundeb Brexit.

Fe wnaeth John Bercow ddatganiad yn y siambr ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 10) yn rhybuddio’r Prif Weinidog y gallai gohirio’r bleidlais – yr oedd disgwyl iddi gael ei chynnal heddiw – heb ganiatâd Aelodau Seneddol fod yn “anghwrtais iawn”.

O dan reolau’r Senedd, roedd hawl gan Theresa May i ohirio’r bleidlais heb ofyn am ganiatâd, ond fe anogodd John Bercow hi i “roi’r cyfle i’r Tŷ fynegi barn ar y bleidlais…”

Mewn ymateb i hyn, mae Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, wedi cyhuddo’r Llefarydd o “ddangos ei farn ar Brexit”.

“Mae’n fater sydd yn ei ddwylo ef, ond mae’n ymgais i herio ac mae’n rhaid i gyd-weithwyr ffurfio barn ar hynny,” meddai ar y rhaglen Today ar BBC Radio 4.

Nid dyma’r tro cyntaf i Andrea Leadsom a John Bercow fod ynghanol ffrae, ac mae cynnen rhwng y ddau’n mynd yn ôl i fis Mai pan gafodd y Llefarydd ei gyhuddo o alw Arweinydd y Tŷ yn “ddynes dwp”.