Mae disgwyl i Theresa May gyfarfod ag arweinwyr Ewrop a swyddogion yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 11) mewn ymgais i ‘achub’ ei bargen Brexit.

Fe ydd hi’n cynnal trafodaethau gyda phrif weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte, a Changhellor yr Almaen, Angela Merkel – cyn cyfarfod Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, ac Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Caude Juncker y Brwsel.

Daw hyn wedi iddi ohirio pleidlais Tŷ’r Cyffredin ar ei chytundeb ddoe (Rhagfyr 10).

Mae Theresa May yn dweud bod angen “sicrwydd pellach” arni am gynllun ffin Gogledd Iwerddon er mwyn cael cefnogaeth Aelodau Seneddol.

Mynnodd Donald Tusk na fyddai’r Undeb Ewropeaidd  yn “ail-drafod” ond dywedodd y byddai arweinwyr yn trafod sut i helpu “hwyluso cadarnhad Ynysoedd Prydain”.

Mae llefarydd Donald Tusk hefyd wedi cadarnhau y bydd cyfarfod yn digwydd yn benodol er mwyn trafod sefyllfa heb gytundeb.

Mae penderfyniad Theresa May i droi yn ôl ar gynlluniau’r bleidlais wedi ysgogi arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, i sicrhau trafodaethau argyfwng tair awr heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 11).