Mae Theresa May wedi penderfynu peidio cynnal pleidlais ar ei chynllun Brexit yn y Senedd, mae ffynhonnell wedi cadarnhau.

Roedd disgwyl i’r bleidlais dyngedfennol gael ei chynnal fory (dydd Mawrth, 11 Rhagfyr) ond roedd nifer o Aelodau Seneddol eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r cynllun.

Roedd y Prif Weinidog wedi bod yn cynnal cyfarfod dros y ffon y bore ma gydag aelodau o’i Chabinet.

Mae disgwyl iddi wneud cyhoeddiad yn Nhy’r Cyffredin pnawn ma am 3.30pm.

Yn dilyn hynny, bydd Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, yn gwneud datganiad, yn ogystal â’r Ysgrifennydd Brexit, Stephen Barclay, a fydd yn siarad ar y testun, ‘Gadael yr Undeb Ewropeaidd – Erthygl 50’.

Does dim cadarnhad swyddogol gan Downing Street hyd yn hyn bod y bleidlais wedi cael ei gohirio ond mae disgwyl i Theresa May gadarnhau ei bod am geisio cael consesiynau pellach o Frwsel er mwyn plesio ei phlaid.

“Anobeithiol”

Mewn ymateb, mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn dweud bod y Llywodraeth  wedi cymryd y cam “anobeithiol” o ohirio’r bleidlais ar yr unfed awr ar ddeg.

“Rydym yn gwybod ers pythefnos bod cytundeb gwael Theresa May yn mynd i gael ei wrthod gan y Senedd oherwydd ei fod yn niweidiol i wledydd Prydain,” meddai.

“Yn hytrach, mae wedi parhau i frwydro ymlaen pan ddylai hi fod wedi dychwelyd i Frwsel i ail-drafod neu alw am etholiad fel y gall y cyhoedd bleidleisio am lywodraeth a allai wneud hynny.

“Does ganddon ni ddim Llywodraeth weithredol. Tra bo Theresa May yn parhau i wneud llanast â Brexit, mae ein gwasanaethau cyhoeddus mewn argyfwng ac mae ein cymunedau yn dioddef oherwydd diffyg buddsoddiad.”