Mae’r heddlu wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw eisiau ei holi ar ôl i amddiffynnwr tîm pêl-droed Cystal Palace gael ei daro â photel.

Cafodd Aaron Wan-Bissaka ei daro yn ystod gêm gartref yn Selhurst Park yn erbyn Newcastle United ym mis Medi.

Chafodd y chwaraewr, sy’n chwarae i dîm dan 21 Lloegr, ddim ei anafu ac fe lwyddodd i barhau i chwarae.

Roedd cefnogwyr Newcastle United mewn tymer yn ystod y gêm honno wrth i berchennog y clwb, Mike Ashley, ymddangos mewn gêm am y tro cyntaf ers mis Mai 2017.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i achoson o gamymddwyn yn ystod y gêm ac wedi rhyddhau llun o’r dyn maen nhw’n awyddus i’w holi.