Byddai 59% o Albanwyr o blaid annibyniaeth i’r wlad pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl arolwg gan Panelbase.

Ac fe ddywedodd 53% o’r bobol wnaeth ymateb i’r pôl ar ran y Sunday Times yn yr Alban ac LBC y byddai annibyniaeth yn fwy manteisiol i’r wlad nag aros yn rhan o Brydain sydd wedi cytuno i adael yr Undeb Ewropeaidd drwy’r Mesur Ymadael.

Ond dim ond 47% o boblogaeth yr Alban sydd o blaid annibyniaeth o hyd o anwybyddu mater Brexit.

Cafodd 1,028 o bobol eu holi ar drothwy pleidlais dyngedfennol i Brif Weinidog Prydain, Theresa May yn San Steffan ddydd Mawrth.

Byddai 51% o blaid cynnal etholiad cyffredinol pe bai hi’n colli’r bleidlais ddydd Mawrth, ac mae’r pôl yn awgrymu y byddai’r SNP yn ennill 37% o seddau’r wlad (39) yn yr etholiad cyffredinol hwnnw. 35 sedd sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.