Mae dau o gyn-weinidogion Llywodraeth Prydain wedi cynyddu’r pwysau ar Theresa May wrth i’r ffrae ynghylch ei chynllun Brexit barhau.

Mae Dominic Grieve, y cyn-Dwrnai Cyffredinol, yn rhybuddio y gallai’r cytundeb arfaethedig chwalu’r Blaid Geidwadol, tra bod Boris Johnson, y cyn-Ysgrifennydd Tramor, awgrymu ei fod yn dal i ystyried herio Prif Weinidog Prydain am yr arweinyddiaeth.

Mae Esther McVey, y cyn-Weinidog Gwaith a Phensiynau, hefyd yn “ystyried yn ddwys” herio Theresa May am yr arweinyddiaeth pe bai’n dod i hynny. Ac mae’r cyn-Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab yn dweud ei fod yn gwrthod cael ei “dynnu i mewn i’r ddadl honno”.

Boris Johnson

Yn ôl Boris Johnson, mae’r cyllun sy’n cael ei gynnig gan Theresa May yn agored i “flacmêl” o du’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed mai “nonsens” yw awgrymu ei fod e eisoes wedi dechrau trafod ei Gabinet pe bai’n dod yn Brif Weinidog, ond mae e wedi gwrthod wfftio’r posibilrwydd y gallai fynd am yr arweinyddiaeth, gan ddweud ei fod yn “barod i gefnogi’r hyn dw i’n credu yw’r cynllun mwyaf synhwyrol”.

Mae’n dadlau y gallai cynllun Theresa May gael ei basio pe bai’n dileu’r sôn am fesur dros dro ynghylch ffiniau Iwerddon, a bod hynny’n “eithaf syml” i’w ddatrys.

Ei awgrymu yntau, meddai, yw gohirio’r sôn am Iwerddon am y tro a cheisio sefydlu cytundeb masnachu sy’n mynd i’r afael â’r mater. Pe na bai Iwerddon yn cytuno, meddai, dylai Prydain ddal rhywfaint o’r setliad £39bn yn ôl.

Dywed hefyd y dylid cynllunio ar gyfer sefyllfa lle na fydd cytundeb, ond y byddai’n teimlo’n “gyfrifol” pe bai hynny’n digwydd yn dilyn y bleidlais ddydd Mawrth.

Dominic Grieve

Mae’r ffrae tros Brexit yn peryglu dyfodol y Blaid Geidwadol, yn ôl Dominic Grieve, y cyn-Dwrnai Cyffredinol.

All y blaid “ddim parhau yn ei ffurf bresennol”, meddai.

Ond mae’n pwysleisio mai ar fater Brexit yn unig y mae’r blaid wedi’i hollti, ac yntau wedi bod o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n wfftio’r posibilrwydd y gallai nifer o Geidwadwyr dorri’n rhydd a ffurfio plaid newydd.

“Mae yna risg y bydd y blaid yn cael ei hollti, ac ni all barhau yn ei ffurf bresennol,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Ond mae yna eironi hefyd, os cewch chi aelodau seneddol Ceidwadol o blaid ac yn erbyn Brexit ynghyd mewn ystafell a’ch bod yn gallu osgoi Brexit, yna fe sylweddolwch chi ar unwaith eu bod nhw’n cytuno ar nifer fawr o bethau.”

Yn y cyfamser, mae wedi cwestiynu “gallu” Boris Johnson i arwain y blaid, gan ddweud y byddai’n anodd iddo dderbyn Chwip y blaid pe bai hynny’n digwydd.

Ac mae’n gwrthod trafod rhinweddau Esther McVey, gan ddweud y byddai’n well ganddo pe bai Theresa May yn parhau yn ei swydd.