Byddai’r Undeb Ewropeaidd yn awyddus i aildanio trafodaethau Brexit pe tasai cynlluniau Theresa May yn cael eu gwrthod.
Dyna mae John McDonnell, y Canghellor Cysgodol, wedi dweud yn ystod ymweliad â Glasgow, yr Alban, ar ddydd Gwener (Rhagfyr 7).
“Rydym ni’n credu y bydd gan y Senedd gyfle’r wythnos nesa’, pan fydd Theresa May yn colli’r bleidlais ar ei chytundeb, i ystyried ambell drywydd gwahanol,” meddai John McDonnell.
“Rydym wedi cynnig trywydd a fyddai’n medru ennyn digon o gefnogaeth, a fyddai ddim yn golygu bod rhaid ailddechrau’r trafodaethau yn syth.
“Dyna ddigwyddodd gyda [diwygiad cyfansoddiadol] Chytundeb Lisbon pan wnaeth cwpwl o wledydd gynnal refferenda a chymryd safiad gwahanol.”
Wfftio
Mae John McDonnell hefyd wedi wfftio rhybudd arweinydd Unite, Len McCluskey, mai brad yw cynnal ail refferendwm.
Pe tasai ymdrech Llafur i gael ail refferendwm yn methu, meddai, byddai’r cyhoedd yn deall bod angen cynnal refferendwm arall.
“Dw i’n credu y bydd pobol yn sylweddoli nad oes gennym ni unrhyw opsiwn ond cynnal pleidlais gyhoeddus arall,” meddai.