Fe fydd David Duckenfield, y prif heddwas oedd ar ddyletswydd trychineb bêl-droed Hillsborough, yn mynd o flaen ei well ar gyhuddiad o ddynladdiad – wedi i gais i beidio â’i erlyn gael ei daflu allan.

Mae’r cyn-blismon gyda Heddlu De Swydd Efrog wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 95 o gefnogwyr Lerpwl trwy esgeulusdod, wedi iddyn nhw gael eu lladd yn ystod gêm gyn-derfynol Cwpan Lloegr ar Ebrill 15, 1989.

Mae disgwyl i David Duckenfield, 73, ymddangos yn y llys ar Ionawr 14, ochr yn ochr ag ysgrifennydd clwb pêl-droed Sheffield Wednesday, Graham Mackrell, 68, sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn ymwneud â diogelwch y stadiwm.

Dan y gyfraith adeg y trychineb, fydd neb yn cael ei erlyn tros farolaeth rhif 96 – Tony Bland – gan ei fod o wedi marw fwy na blwyddyn a diwrnod wedi iddo gael ei anafu yn Hillsborough.

Mae disgwyl i dri diffynnydd arall – y plismyn wedi ymddeol Donald Denton, 80, a Alan Foster, 71; y cyfreithiwr wedi ymddeol, Peter Metcalf, 68, a oedd yn cynrcyhioli Heddlu De Swydd Efrog yn dilyn y trychineb; sefyll eu prawf yn ystod Medi 2019, ar gyhuddiadau o wneud pethau gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.