Mae cyngor cyfreithiol sydd wedi’i gyhoeddi heddiw yn rhybuddio am “broses hir” er mwyn sicrhau bod Prydain yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r wybodaeth wedi’i chyhoeddi yn dilyn cyhuddiad fod Llywodraeth Prydain yn euog o ddirmyg seneddol drwy wrthod datgelu’r cyngor.

Mae’r ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi gan y Twrnai Cyffredinol Geoffrey Cox yn 33 tudalen, ac fe gafodd y manylion eu datgelu toc cyn i’r Prif Weinidog Theresa May wynebu aelodau seneddol yn ei sesiwn holi wythnosol.

Mae trafodaethau’n cael eu cynnal gydol yr wythnos hon cyn y dyddiad terfynol i benderfynu a ddylid derbyn cytundeb Theresa May yn dilyn trafodaethau â Brwsel.

Gwrthwynebiad

Mae gwrthwynebwyr i gynllun arfaethedig Theresa May yn debygol o dynnu sylw at wendidau’r ddogfen ac yn fwy penodol, y pryderon sy’n codi ynghylch dyfodol Iwerddon a’i ffiniau.

Mae aelodaeth o’r farchnad sengl hefyd yn asgwrn y gynnen, ac fe allai mater Iwerddon gael effaith ar y drafodaeth honno hefyd.

“Yn absenoldeb yr hawl i derfynu [y cytundeb], mae yna risg gyfreithiol y gallai’r Deyrnas Unedig fod yn destun trafodaethau hir ac ailadroddus,” meddai Geoffrey Cox yn ei gyngor.

“Rhaid pwyso a mesur y risg yn erbyn yr angen economaidd a gwleidyddol ar y ddwy ochr i ddod i gytundeb sy’n gosod seiliau gwleidyddol sefydlog a pharhaol ar gyfer y berthynas yn y dyfodol.

“Mae hwn yn benderfyniad gwleidyddol i’r Llywodraeth.”

Yr angen i’w gyhoeddi

Mae Keir Starmer, yr aelod seneddol Llafur, yn dweud ei bod yn “amlwg pam fod angen rhoi hwn [y cyngor] gerbron y cyhoedd.

“Gydol yr wythnos, fe glywson ni o du gweinidogion y Llywodraeth y gallai cyhoeddi’r wybodaeth hon niweidio’r lles cenedlaethol. Dim byd o’r fath. Y cyfan mae’r cyngor hwn yn ei ddatgelu yw gwendidau canolog cytundeb y Llywodraeth.”

Mae aelod seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas yn cwestiynu pa baragraffau yn y ddogfen “sy’n mynd yn groes i les y cyhoedd”, yn dilyn sylwadau’r Llywodraeth na ddeuai unrhyw dda o gyhoeddi’r cyngor cyfreithiol.