Mae rheoleiddwyr yn cynnal ymchwiliad ar ôl i bedwar ceffyl farw mewn un diwrnod ar gwrs rasio yn yr Alban.

Fe dderbyniodd Smart Ruler, Leather Belly, Sierra Oscar a Kensikes anafiadau angheuol yn Musselburgh, ger Caeredin, ddydd Llun (Rhagfyr 3).

Yn ôl Awdurdod y Ceffylau Rasio Prydeinig (BHA), maen nhw’n ymchwilio i’r marwolaethau ar ôl derbyn adroddiad bod un o’r ceffylau wedi “cwympo’n sydyn” i’r llawr.

Mae colli nifer o geffylau mewn un diwrnod o rasio yn ddigwyddiad “prin”, meddai’r rheoleiddwyr wedyn, gan ychwanegu bod nifer y marwolaethau yng ngwledydd Prydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gostwng i tua 0.2% o’r rhedwyr.

Mae rheolwr Cwrs Rasio Musselburgh, Bill Farnsworth, wedi dweud y byddai’n cydweithio’n agos ag ymchwilwyr er mwyn geisio canfod beth achosodd i’r pedwar ceffyl farw.

Mae cyrff y ceffylau bellach wedi’u hanfon i ffwrdd ar gyfer profion post-mortem