Fe ddaeth i’r amlwg bod Stryd Downing wedi gwario mwy na £50,000 ar hyrwyddo’r cytundeb Brexit ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y tri mis diwethaf.

Mae’r Prif Weinidog wedi cael ei chyhuddo o “wastraffu” arian cyhoeddus gan un o Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, Layla Moran, a ddaeth o hyd i’r ffigyrau ar ôl gofyn cwestiwn yn y Senedd.

Does dim gwybodaeth ynglŷn â sut yn union cafodd yr arian ei wario, ond mae sawl clip fideo wedi cael eu cyhoeddi ar gyfrif Twitter a Facebook y Prif Weinidog a Stryd Downing yn ddiweddar yn cynnwys yr hashnod, #BackTheBrexitDeal.

Wrth gyhoeddi’r ffigyrau, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth fod y cyfanswm o £52,509 a gafodd ei wario yn cyfrif am lai na 0.02% o’r cyllid gwerth £300m sydd ganddyn nhw ar gyfer cyfathrebu.