Drysau'r llys apel (Anthony M CCA 2.0)
Fe fydd y Llys Apêl yn Llundain yn clywed achosion deg o bobol a gafodd eu carcharu am eu rhan yn y terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr ym mis Awst.

Maen nhw i gyd yn apelio yn erbyn maint y gosb, gan ddadlau eu bod yn fwy nag y dylen nhw fod yn yr amgylchiadau.

Maen nhw’n cynnwys dau ddyn ifanc a gafodd bedair blynedd o garchar am ddefnyddio tudalennau Facebook i annog terfysg.

Roedd Jordan Blackshaw a Perry Sutcliffe-Keenan ill dau wedi cyhoeddi negeseuon ar y wefan gymdeithasol gan annog pobol i derfysgu yn ardaloedd Northwich a Warrington.

Dwyn ac anhrefn

Mae’r wyth achos arall yn ymwneud â dwyn o siopau ac yn amrywio o 12 mis mewn canolfan ieuenctid am drin nwyddau wedi’u dwyn i fwy na phedair blynedd o garchar am dorri i mewn i siop ac anhrefn treisgar.

Roedd un dyn hefyd wedi cael 20 mis o garchar am ddwyn camera o siop a’r prif gwestiwn i’r tri barnwr fydd penderfynu a oedd y cosbau’n ‘ormodol’ neu’n ‘gymesur’.

Mae’r carcharorion yn dod o ardaloedd ger Manceinion neu yn Llundain ond, oherwydd nifer yr achosion, does dim disgwyl penderfyniad terfynol heddiw.

Erbyn hyn, mae mwy na 1,700 o bobol wedi eu cyhuddo yn sgil y terfysgoedd a 300 wedi eu cosbi. Mae nifer o heddluoedd yn parhau i gyhoeddi lluniau o bobol y maen nhw eisiau eu holi.