Mae Ryanair yn wynebu her gyfreithiol ar ôl i reoleiddwyr gyhuddo’r cwmni awyrennau o wrthod talu iawndal i deithwyr a ddioddefodd yn sgil y streiciau gan staff rai misoedd yn ôl.

Yn ôl yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), mae Ryanair wedi gwrthod ceisiadau am iawndal yn ogystal â dod â’i chytundeb â AviationADR, y corff sy’n delio â chwynion cwsmeriaid, i ben.

Bu rhaid i deithwyr wynebu trafferthion mawr yn ystod yr haf yn dilyn cyfres o streiciau gan staff awyrennau’r cwmni.

Mae Ryanair yn honni bod y streicio’n “ddigwyddiad anghyffredin”, ond mae’r rheoleiddwyr yn wfftio’r esgus hwn, gan ddweud bod rhaid i’r cwmni ddarparu iawndal.

Ym mis Hydref, fe gyhoeddodd Ryanair eu bod nhw wedi derbyn llai o elw, oherwydd llai o gwsmeriaid a phrisiau tanwydd uchel.