Mae achosion o gam-drin plant yn rhywiol wedi cynyddu 206% dros y pum mlynedd diwethaf yn ol yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid.

Dywedodd Sajid Javid wrth ASau bod hyn yn cynnwys pob trosedd rywiol yn erbyn plant ers 2013.

Roedd AS y Ceidwadwyr Phillip Hollobone wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Cartref i nodi’r gosb uchaf ar gyfer troseddau yn erbyn plant ar lein a faint o bobol oedd wedi cael eu cosbi yn ystod cwestiynau’r Swyddfa Gartref.

“Mae nifer yr achosion o gam-drin rydym yn gweld yn cynyddu’n flynyddol,” meddai Sajid Javid.

“I wneud synnwyr o hynny, yn nhermau troseddau o gam-drin plant, mae cynnydd o 23% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018, o’i gymharu â 2013,  roedd cynnydd o 206%.”

Er hynny, “mae llawer mwy o waith ac ymdrech yn mynd mewn i hyn” meddai Sajid Javid – “bob mis mae tua 400 yn cael eu harestio a 500 o blant yn cael eu gwarchod.”