Mae Theresa May wedi dweud wrth ei chyd-aelodau Ceidwadol i “bwyllo” a chefnogi ei chytundeb Brexit.

Daw ei sylwadau ar drothwy pum diwrnod o ddadlau yn Nhŷ’r Cyffredin ar y cytundeb, a fydd yn dod i ben gyda phleidlais dyngedfennol ar Ragfyr 11.

Roedd y Prif Weinidog yn siarad ar raglen This Morning ar ITV, lle’r oedd wedi diystyrru awgrymiadau y byddai’n ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog wedi’r wythnos nesaf.

“Bydda i’n dal mewn swydd ymhen pythefnos,” meddai.“Fy swydd yw sicrhau ein bod ni’n cyflawni’r hyn y mae pobol eisiau: rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n dda iddyn nhw.

“Dw i’n canolbwyntio ar gael y bleidlais honno, a chael y bleidlais dros y llinell,” meddai wedyn.

“Oherwydd mae hyn, yn fy marn i, yn ddigwyddiad pwysig yn ein hanes…”

Ail refferendwm?

Wrth ymateb i alwadau am ail refferendwm, fe ddywedodd Theresa May ei bod hi am barhau i ddarparu’r hyn y pleidleisiodd etholwyr amdano yn y refferendwm cyntaf yn 2016.

“Fe ofynnon ni i bobol bleidleisio,” meddai. “Fe ddywedon ni: ‘Dewiswch pa un ai i adael neu aros’.

“Fe bleidleisiodd pobol o blaid gadael, a dw i’n meddwl ei fod yn gyfrifoldeb democrataidd arnom ni, wleidyddion, wedi’r refferendwm hwnnw a’r dewis, i ddarparu ar hynny.”