Ed Miliband - ffafrio'r rhai sy'n cyfrannu
Fe ddylai pobol sy’n cyfrannu i’w cymdeithas gael blaenoriaeth wrth geisio am dai cymdeithasol, meddai’r arweinydd Llafur.

Yn ei araith i gynhadledd y blaid heddiw, fe fydd Ed Miliband yn dweud bod angen gwobrwyo pobol a busnesau sydd â’r “gwerthoedd iawn”.

Fe fyddai hynny’n cynnwys rhoi hawl i gynghorau yn Lloegr roi pwyntiau ychwanegol i ddarpar denantiaid sy’n gwneud gwaith gwirfoddol, yn “gymdogion da” ac yn dangos cyfrifoldeb wrth ofalu am eiddo.

Mae ambell gyngor eisoes yn ffafrio tenantiaid sy’n gweithio ac fe fydd disgwyl i bob awdurdod ddilyn eu hesiampl, gyda’r hawl i osod eu meini prawf eu hunain.

Does dim gwybodaeth eto a fyddai Llywodraeth Cymru am ddilyn yr un trywydd.

Gwobrwyo busnesau

Fe fydd yr arweinydd Llafur hefyd yn dweud bod angen gwobrwyo busnesau sy’n cyfrannu at eu cymdeithas, yn hytrach na rhai sy’n cymryd mantais er mwyn elw’n unig.

Mewn dyfyniadau sydd eisoes wedi eu gollwng i’r cyfryngau, mae Ed Miliband yn dweud bod y drefn fel y mae’n gwobrwyo’r “bobol anghywir” gyda’r “gwerthoedd anghywir”.

“Hyd yn oed ar ôl diwygiadau’r blynyddoedd diwetha’, y gwir yw fod gyda ni system o hyd lle nad yw’r wobr am waith yn ddigon uchel, lle mae budd-daliadau’n rhy hawdd i’w cael i’r rheiny sy’n camddefnyddio’r system ac heb fod yn gweithio i’r rhai sy’n ymddwyn yn iawn,” meddai.