Mae Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan, yn ffyddiog y gall cynlluniau Brexit Theresa May gael digon o gefnogaeth yn y Senedd.

Mae Prif Weinidog Prydain yn wynebu pleidlais dyngedfennol ar Ragfyr 11, gyda phum niwrnod o ddadleuon yr wythnos hon.

Mae Michael Gove, a gefnogodd ymadawiad Prydain yn y refferendwm yn 2016, yn cyfaddef nad yw’r cytundeb arfaethedig yn “berffaith”, ond ei fod yn well na dim cytundeb o gwbl. Ond mae’n cyfaddef y bydd yn “her” i’w gael trwy’r Senedd.

Daw ei sylwadau wrth i Syr Keir Starmer, llefarydd Brexit yr wrthblaid, ddweud bod pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth yn anochel pe bai’r cynlluniau’n cael eu gwrthod.

‘Meddwl yn galed’

Mae Michael Gove, oedd wedi gwrthod y cyfle i fod yn Ysgrifennydd Brexit ac olynu Dominic Raab, hefyd yn cyfaddef iddo “feddwl yn galed” cyn cefnogi’r cynlluniau.

“Wnes i feddwl yn hir ac yn galed am y cytundeb hwn, ond fe ddes i i’r casgliad, fel llawer o bobol, mai dyma’r peth cywir i’w wneud er ei fod yn amherffaith,” meddai wrth raglen Andrew Marr y BBC.

“Un o’r pethau dw i’n gobeithio y bydd pobol yn cael cyfle i’w wneud dros y naw diwrnod nesaf yw cydnabod na ddylen ni berffeithio gwneud gelyn allan o bobol dda.”

Mae’n dweud mai un o’r prif heriau fydd datrys sefyllfa ffiniau Iwerddon.