Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud bod newyddiadurwr o Rwsia wedi cael ei fonitro ar ôl bod yn ymddwyn yn amheus ger canolfan filwrol yn Swydd Berkshire.

Cafodd Timur Siraziev ei weld yn mynd heibio’r ganolfan yn Hermitage dro ar ôl tro, yn ôl y Mail on Sunday.

Mae ei enw’n ymddangos ar wefan Llysgenhadaeth Rwsia fel rheolwr swyddfa gorsaf deledu yn ei famwlad.

“Rydym yn cymryd diogelwch ein canolfannau a’n personel yn eithriadol o ddifrifol,” meddai Gavin Williamson, Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan.

“Os yw aelod o’r cyhoedd yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus mewn canolfan filwrol neu o’i hamgylch, fe ddylid adrodd am hynny wrth yr heddlu ar frys.”

Tensiwn

Daw’r adroddiadau yng nghanol tensiwn rhwng Prydain a Rwsia yn dilyn gwenwyno Sergei a Yulia Skripal yn Salisbury yn gynharach eleni.

Gwasanaeth cudd-wybodaeth yn Rwsia sy’n cael y bai gan Brydain am y digwyddiad.

Fis diwethaf, dywedodd Mark Carleton-Smith, pennaeth newydd y Fyddin, fod Rwsia yn fwy peryglus i ddiogelwch Prydain na grwpiau o Islamyddion eithafol.