Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn fodlon herio Theresa May tros Brexit mewn dadl deledu ar y BBC ar yr amod mai nhw yn unig sy’n cymryd rhan.
Dyma’r opsiwn mae ITV yn ei ffafrio, tra bod y BBC am weld mwy o bobol yn cymryd rhan.
Yn ôl cynlluniau’r BBC, byddai’r ddau arweinydd yn cael eu holi gan banel o sylwebyddion a gwleidyddion, ac yn cymryd rhan mewn dadl yn erbyn ei gilydd.
Gallai’r ddadl gael ei chynnal ddydd Sul nesaf (Rhagfyr 9), ddeuddydd cyn y bleidlais ar gynlluniau Theresa May yn San Steffan.
“Dywedodd Theresa May ei bod hi am gael dadl unigol gyda fi ynghylch ei chynllun Brexit anniben, a dw i’n barod i wneud hynny,” meddai ar Twitter.
“Mae gan ITV gynllun syml. Os oes gwell ganddi hi a’i thîm y BBC, dylai hi ymuno â fi i ofyn iddyn nhw drefnu dadl un-i-un go iawn.”
Datganiad y BBC
“Ein cynnig yw darlledu rhaglen sy’n cynnwys dadl unigol rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid, a rhoi cyfle hefyd i glywed gan ystod ehangach o leisiau,” meddai’r BBC mewn datganiad.
“Wedi’r cyfan, mae gan y cyhoedd a Senedddwyr ystod eang o safbwyntiau ar y mater hwn – o’r rhai sydd am weld ffurfiau gwahanol ar Brexit i’r rhai sydd am gael pleidlais gyhoeddus arall – ac rydym yn credu y dylai hynny gael ei adlewyrchu yn y ddadl.”