Mae disgwyl i Liam Fox feirniadu Ceidwadwyr sy’n gwrthwynebu cytundeb Brexit Theresa May, gan eu cyhuddo o beidio wynebu’r ffaith bod yn rhaid iddi wneud penderfyniadau anodd.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol yn ymweld â Bryste heddiw wrth iddo geisio ennyn cefnogaeth i’r cytundeb cyn y bleidlais ar 11 Rhagfyr. Mae disgwyl iddo gydnabod na fydd y cytundeb a wnaed ym Mrwsel yn plesio pawb ond ei fod yn darparu “seilwaith cadarn” er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw hyn ar ôl i Theresa May annog Aelodau Seneddol i gefnogi ei chynllun Brexit er mwyn osgoi “rhaniadau ac ansicrwydd”.

Daeth sylwadau’r Prif Weinidog wrth iddi ymweld ag uwchgynhadledd y G20 yn Buenos Aires lle mae disgwyl iddi gwrdd â Donald Trump a Vladimir Putin.

Yn ôl adroddiadau, mae 100 o ASau Ceidwadol bellach yn bwriadu gwrthwynebu ei chytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd, gan olygu ei fod mewn perygl o gael ei wrthod.