Fe fydd pris tocynnau trên yn cynyddu 3.1% ar gyfartaledd o 2 Ionawr, mae’r diwydiant rheilffordd wedi cyhoeddi.

Dyma fydd y cynnydd mwyaf ers Ionawr 2013, yn ôl y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd sy’n casglu data am y diwydiant.

Fe fydd nifer o deithwyr sy’n teithio pellter sylweddol yn gweld cynnydd o £100 yn y gost flynyddol.

Dywedodd Paul Plummer, prif weithredwr y Rail Delivery Group (RDG): “Does neb eisiau talu mwy i deithio, yn enwedig y rhai sydd wedi cael trafferthion sylweddol yn gynharach eleni.

“Mae’r arian yn mynd tuag at welliannau i’r rheilffyrdd mae teithwyr am eu gweld ac sydd, yn ei dro, yn hwb i’r economi ehangach.

“Mae hynny’n golygu mwy o seddi, gwasanaethau ychwanegol a gwell cysylltiadau ar draws y wlad.”

Roedd ’na alwadau i rewi prisiau yn dilyn yr anrhefn gafodd ei achosi gan amserlenni newydd ym mis Mai.