Mae cyflwynydd radio o wledydd Prydain a oedd wedi treulio cyfnod yn byw yn Libanus yn y Dwyrain Canol, wedi’i gael yn farw yn ei fflat ger Beirut.

Mae marwolaeth Gavin Ford wedi symbylu cannoedd o wrandawyr i fynd ar y gwefannau cymdeithasol i roi teyrngedau iddo. Roedd yn cyflwyno sioe foreol ar Radio One.

Mae’r awdurdodau yn Libanus wedi cadarnhau i’w gorff gael ei ganfod ddydd Mawrth (Tachwedd 27), ond heb roi dim mwy o fanylion na hynny.

Mae sianel LBC TV wedi mynd ymhellach na’r datganiad swyddogol gan awdurdodau Libanus trwy gyhoeddi fod Gavin Ford wedi cael ei dagu a’i daro ar ei ben cyn iddo farw.