Mae’r myfyriwr a gafodd ei gyhuddo o ysbïo yn un o wledydd y Dwyrain Canol bellach wedi dychwelyd i wledydd Prydain.

Fe gafodd Matthew Hedges o Brifysgol Durham ei ddedfrydu i oes o garchar yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ar gyhuddiad o ysbïo ar ran MI6, cyn derbyn pardwn gan Arlywydd y wlad ddoe (dydd Llun, Tachwedd 26).

Bellach, mae llefarydd ar ran teulu y myfyriwr, sy’n arbenigo ar astudiaethau’r Dwyrain Canol, wedi cadarnhau ei fod wedi cyrraedd Maes Awyr Heathrow y bore yma.

“Diolch”

Yn ei ddatganiad cyntaf ers cael ei ryddhau, mae Matthew Hedges wedi diolch am yr holl gefnogaeth a dderbyniodd dros y misoedd diwethaf, yn ogystal â thalu teyrnged i’w wraig, Daniela Tejada.

“Dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau wrth ddiolch pobol a sicrhaodd fy mod i’n cael fy rhyddhau,” meddai.

“Dydw i ddim wedi darllen llawer o’r pethau sydd wedi cael ei ysgrifennu dros y diwrnodau diwethaf, ond mae Dani wrtha i fod y gefnogaeth wedi bod yn anhygoel.

“Diolch o galon i’r Llysgenhadaeth Brydeinig a’r Swyddfa Dramor am eu hymdrechion i sicrhau fy mod i’n cyrraedd adref yn ddiogel.

“Fydda i ddim wedi gallu gwneud hyn heb Daniela – dw i’n clywed bod ei hwyneb hi ymhob man.

“Mae mor ddewr a chryf – mae ei gweld hi a’r teulu ar ôl y profiad caled hwn yn un o’r pethau gorau.”