Gallai’r cynnydd mewn lefelau gwres a’r môr o dros fetr fygwth Ynysoedd Prydain yn y degawdau nesaf heb ymdrech i dorri nwyon tŷ gwydr, mae arbenigwyr yn rhybuddio.

Maen nhw’n honni gall tymheredd yr haf godi 5.4 Celsius yn uwch na’r lefel presennol erbyn 2070, tra gallai’r tymheredd yn y gaeaf godi 4.2 Celsius os yw llygredd tanwydd ffosil yn aros yn uchel.

Erbyn canol y ganrif, mi fydd gwyliau haf fel y cawsom yr haf yma yn rhywbeth arferol, dywedodd archwilydd y Swyddfa Dywydd.

Mae posibilrwydd y bydd 47% yn llai o law yn ystod yr haf erbyn 2070 a 35% mwy yn ystod y gaeaf.

Hyd yn oed os yw allyriadau yn cael eu torri yn unol â chytundeb hinsawdd Paris sy’n ceisio rhwystro’r cynnydd mewn tymheredd, gall lefelau môr Llundain dal fod 29cm i 70cm yn uwch yno erbyn 2100.

Mae disgwyl i Gaerdydd fod a’r un lefelau môr a Llundain, ac yng Nghaeredin mae posib i’r lefelau godi 49cm i 70cm.