Mae myfyriwr o wledydd Prydain wedi derbyn pardwn gan yr Emiradau Arabaidd Unedig, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei garcharu yn y wlad ar gyhuddiad o ysbïo.

Cafodd Matthew Hedges, 31, o Brifysgol Durham ei arestio ym Maes Awyr Dubai ar Fai 5, wedi iddo fod yn gwneud gwaith ymchwil yn y wlad.

Cafodd yr arbenigwr ar astudiaethau’r Dwyrain Canol ei gyhuddo gan yr awdurdodau o fod yn aelod o MI6, cyn cael ei ddedfrydu i oes o garchar yr wythnos ddiwethaf (Tachwedd 21). Mae bellach wedi cael ei ryddhau.

Wrth gyhoeddi’r pardwn mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (Tachwedd 26), dywedodd Ysgrifennydd Tramor yr Emiradau Arabaidd Unedig, Dr Anwar Gargash, fod modd i Lywodraeth y wlad a Llywodraeth Prydain bellach ddychwelyd at gynnal eu perthynas.

“Chwerw felys”

Mae Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt, wedi croesawu’r pardwn gan ddweud ei fod yn “newyddion gwych”.

Ond ychwanegodd ei fod yn adeg “chwerw felys”, gan fod Nazanin Zaghari-Ratcliffe, sydd hefyd o wledydd Prydain, yn dal i fod yn y carchar yn Iran ar gyhuddiad o ysbïo.

“Er nad oeddwn i’n cytuno â’r cyhuddiadau, rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth yr Emiradau Arabaidd Unedig am ddatrys y mater yn gyflym,” meddai.

“Mae hefyd yn adeg chwerw felys, wrth i ni gofio am Nazanin a phobol ddiniwed eraill sydd wedi’u carchar yn Iran.

“Fydd yna ddim cyfiawnder tan fod y rhain wedi dychwelyd adref yn ddiogel.”