Mae arweinwyr Ewrop wedi cymeradwyo cytundeb Brexit er mwyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth cadarnhad o’r cytundeb gan Lywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, ar ôl llai nag awr o drafodaeth rhwng 27 o arweinwyr ym Mrwsel.

Doedd dim pleidlais, wrth i’r gwledydd ddod i gonsensws.

Roedd amheuon ynghylch y cytundeb ar lefel Senedd Ewrop, ar ôl i Sbaen fynegi pryder am ddyfodol Gibraltar.

Y cam nesaf i’r cytundeb yw ceisio cymeradwyaeth Senedd San Steffan.

Mae disgwyl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29 y flwyddyn nesaf, ac mae disgwyl i San Steffan bleidleisio ar y cytundeb fis nesaf.