Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May dan y lach yn dilyn y cyhoeddiad bod un o aelodau seneddol y Ceidwadwyr sy’n cefnogi ei chynlluniau Brexit am gael ei urddo’n farchog.

Mae’r penderfyniad i urddo John Hayes wedi ennyn cryn wrthwynebiad, gyda rhai yn cyhuddo Theresa May o geisio prynu pleidleisiau ar gyfer ei chynlluniau Brexit drwy wobrwyo’r rhai sydd wedi gwrthwynebu’r cynlluniau hyd yn hyn.

Mewn llythyr beirniadol, mae’r aelod seneddol Ceidwadol Mark Francois yn dweud fod modd rhestru egwyddorion John Hayes “ar gefn hen stamp”.

“Dylwn nodi, gyda llaw, a rhyngddon ni’n unig, fod rhai cydweithwyr yn awgrymu’n angharedig fod y wobr hon yn arwydd, i’r rhai sy’n deall y pethau hyn, o anobaith llwyr gan Lywodraeth sydd i bob pwrpas wedi cefnu ar Brexit, ac sy’n amlwg wedi colli cefnogaeth y DUP a nifer o’u haelodau meinciau cefn eu hunain, i’r fath raddau ei bod bellach wedi’i chyfyngu i urddo cydweithwyr hyblyg yn farchogion, mewn ymgais drychinebus i osgoi colled sydd bron yn sicr ar y bleidlais ystyrlon cyn y Nadolig,” meddai’r llythyr.

‘Neb yn ei longyfarch’

Yn ôl Mark Francois, does neb yn llongyfarch John Hayes ar gael ei urddo’n farchog – yn wahanol i sawl aelod seneddol sydd wedi cael eu hurddo’n farchogion yn y gorffennol.

“Alla i ddim siarad ar ran pob AS ond fel arfer pan fo cydweithiwr yn cael ei urddo’n farchog, ar grŵp WhatsApp mewnol y Ceidwadwyr, rydych chi’n cael llawer o negeseuon gan gydweithwyr eraill yn dweud, ‘Da iawn gyfaill, newyddion gwych’.

“Pan gafodd Gerald Howarth neu John Randall eu hurddo’n farchogion, roedd llu o negeseuon yn eu llongyfarch. Dw i ddim wedi gweld yr un cydweithiwr yn dod i ddweud ’da iawn, Syr John’.”

‘Drewi’

Yn ôl Aelod Seneddol Llafur yng Nghanol Caerdydd, Jo Stevens, mae’r wobr yn “drewi o ffrindgarwch”.

“Mae’n ymddangos, mewn ymgais i basio’r cytundeb Brexit amhoblogaidd hwn, fod y Llywodraeth yn barod i urddo pobol yn farchogion ym mhob man.”

Roedd Syr John Hayes yn weinidog yng nghabinet Llywodraeth Prydain rhwng 2010 a mis Ionawr eleni, pan adawodd ei swydd yn yr Adran Drafnidiaeth wrth i Theresa May ad-drefnu ei Chabinet.

Fe fu’n aelod seneddol yn Swydd Lincoln ers 1997.