Mae plismon wedi cael ei drywanu y tu allan i orsaf drenau Ilford yn nwyrain Llundain.
Roedd e ar ddyletswydd pand ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 9.45 nos Wener (Tachwedd 23).
Mae’r plismon yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond does dim lle i gredu bod ei fywyd mewn perygl.
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad.