Mae Prif Weinidog yr Alban wedi rhybuddio y gallai pysgotwyr gael eu haberthu er mwyn cael cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Er fod Nicola Sturgeon yn canolbwyntio ar yr Alban, mae ei sylwadau’n debyg o dynnu sylw pysgotwyr Cymru hefyd a nhwthau wedi rhybuddio y gallai eu buddiannau gael eu hanwybyddu yn y trafodaethau.

Fe gyhuddodd Brif Weinidog Prydain, Theresa May, o fod yn paratoi i “wadu” pysgotwyr yr Alban “unwaith eto” yn sgil y weledigaeth fasnachol sydd wedi ei chytuno gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain

Mae Ysgrifennydd Gwladol Toriaidd yr Alban, David Mundell, wedi rhybuddio y bydd yn ymddiswyddo os bydd y Deyrnas Unedig yn aros yn rhan o Bolisi Pysgota Cyffredinol yr Undeb.

Ynghynt eleni, roedd adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio bod pysgotwyr Cymru’n rhy fach i elwa ar hawliau posib newydd ar ôl Brexit a bod pysgotwyr cregyn hefyd yn dibynnu llawer ar farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd.

‘Ceffylau ungorn yn lle ffeithiau’

Cyn i’r drafodaeth ddechrau yn Nhŷ’r Cyffredin ar y cytuneb i osod cyfeiriad ar gyfer trafodaethau masnach ar ôl Brexit, fe ddywedodd Nicola Sturgeon ei fod yn enghraifft o “geffylau ungorn yn cymryd lle ffeithiau”.

Mae Theresa May ar y llaw arall wedi mynnu mai dyma’r “cynllun iawn i Brydain”